|
Rhaglen cyrsiau
Gwybodaeth Trips am y Clwb dros 50 oed
Hoffi’r wefan ?
Anfonwch eich sylwadau at
gwefan@circ.org.uk
|
|
|
Roedd Iorwerth Rowlands
yn gadeirydd y sefydliad hwn ar un adeg a gweithiad yn
galed yn codi arian er mwyn codi
proffil y sefydliad a’i gwneud yn bosibl i ddatblygu’r
adnodd cymunedol pwysig hwn. Trwy ei ymdrech galed ef ac
aelodau’r pwyllgor llwyddwyd i godi hanner miliwn o
bunnoedd tuag at adnewyddu’r ganolfan a chreu’r adnoddau
a ddisgrifir ar y tudalennau hyn.
|
 |
Derbyniodd Iorwerth Rowlands
MBE am ei waith
dros elusen. |
|
Ffermwr wedi ymddeol yw Iorwerth ac mae wedi rhoi ei
amser i’r gwaith o hyrwyddo’r angen am ganolfannau
cymunedol a galluogi pobl ifanc i wireddu eu dyheadau
cafodd MBE yn 2005.
Mae’r Ganolfan yn diwallu anghenion pobl o bob oed, boed
hen neu ifanc, sydd yn byw yn ne ddwyrain Ynys Môn -
Pentraeth, Llansadwrn, Llandegfan, Llanfaes, Llangoed,
Penmon, Glanrafon, Llanddona a Biwmares.
Os ydych yn byw ym Miwmares neu yn y cyffiniau, galwch
heibio a bydd croeso mawr i chi!
Cliciwch yma i gysylltu â ni. |
 |
 |
Datblygwyd y Ganolfan gyda chymorth grantiau gan y
Gronfa Treftadaeth y Loteri a’r Gronfa Gymunedol.
Derbyniwyd cyfraniadau hefyd gan Gyngor Sir Ynys Môn,
Cwmni Gwastraff Môn Arfon, Tir a Môr Cyf a CADW. |

 |
|
Canolfan Iorwerth
Rowlands Contact Details . Last Updated
July, 2008
Queries to
webmaster@circ.org.uk. Designed By
C. Warburton

|
|