|
Over 50s Club
Newsletter
Related Links:
Anglesey County Council
DirectGov
Over 50s
|
|
|
Mae’r
Clwb Dros 50 yn cyfarfod yng Nghanolfan Iorwerth Rowlands a chynhelir amrywiaeth o weithgareddau a
chyfarfodydd. Sefydlwyd y clwb gan Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn ar y cyd ag Age Concern Cymru
er mwyn datblygu Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth Cynulliad
Cymru. Nod y clwb yw hyrwyddo delwedd fwy positif o heneiddio a
chreu cyfleoedd cymunedol ar gyfer pobl sydd dros 50 oed. Mae’r
aelodaeth wedi tyfu’n gyflym yn ystod y misoedd diwethaf ac ar
hyn o bryd mae 150 o aelodau. Mae’r clwb ar gyfer pobl sydd yn
byw, nid yn unig ym Miwmares ei hun ond yn holl ardal de
ddwyrain yr ynys. Dewch draw i’r clwb - beth am ddysgu sgil
newydd, ymuno â grŵp ymarfer neu gwrdd â ffrindiau newydd? £3.00
y flwyddyn yw’r tâl aelodaeth.
Mae’r gweithgareddau wythnosol yn cynnwys:
-
Boreau coffi, trafodaethau a the prynhawn
-
Cyrsiau dysgu gydol oes, megis TG, garddio ac ieithoedd
modern
-
Dosbarthiadau ymarfer Tai Chi
-
Sgyrsiau a chyflwyniadau am eitemau o ddiddordeb lleol a
chyffredinol
-
Teithiau
-
Celf a Chrefft
-
Ymweliadau â chanolfannau garddio lleol
-
Ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y gymuned
-
Gweithdai Bwyta’n Iach
-
Rhan o, ac yn gysylltiedig â, Age Concern Cymru
-
Teithiau Siopa – cludiant i wahanol siopau i wneud eich
siopa wythnos bob prynhawn dydd Gwener – pris £1.00 y daith.
|
Pwyllgor Cymunedol |
Mae’r clwb wedi ffurfio pwyllgor o chwe aelod. Mae
cynrychiolwyr o’r pwyllgor yn mynychu Fforwm Môn yn
gyson. Os oes gennych ddiddordeb neu os hoffech
wirfoddoli, dewch draw i’r ganolfan i gael mwy o
wybodaeth neu anfonwch e-bost at
info@circ.org.uk. |
Mae’r adnoddau a’r gefnogaeth ar gael i bawb o’r ardaloedd
cyfagos: Biwmares, Llanfaes, Llangoed, Pentraeth, Penmon,
Llanddona, Llansadwrn, Llandegfan a Phorthaethwy. Cofiwch wneud
digon o ddefnydd o’r adnoddau hyn. Rhowch wybod i ni am unrhyw
weithgareddau yr hoffech iddynt gael eu cynnwys.
Cliciwch
yma i gael gwybod sut i gysylltu â ni
.
Gweler y
rhaglen cyrsiau am fanylion am y cyrsiau sydd ar gael i bobl
sydd dros 50 oed.
Noder: Gall yr amseroedd amrywio o wythnos i wythnos oherwydd
teithiau a’r amserau mae’r tiwtoriaid ar gael. Ffoniwch i gael
manylion.
|
Canolfan Iorwerth
Rowlands Contact Details . Last Updated
July, 2008
Queries to
webmaster@circ.org.uk. Designed By
C. Warburton

|
|